Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) (Diwygio) (Cymru) 2023

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:

Mae Llywodraeth Cymru o’r farn ei bod yn briodol diffinio “y Ddeddf” yn y Rheoliadau er mwyn sicrhau bod y darllenydd yn ymwybodol o gyd-destun yr is-ddeddfwriaeth. Beth bynnag, er bod pwynt y Pwyllgor wedi ei nodi, nid yw’r diffiniad yn cael unrhyw effaith o sylwedd ar y Rheoliadau nac ar sut y byddant yn gweithredu’n ymarferol.

 

Pwyntiau Craffu Technegol 2, 3, 4 a 6:

Mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am dynnu ein sylw at y rhain. Mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau ynghylch y posibilrwydd o lunio Slip Cywiro i ymdrin â’r pwyntiau hyn.

 

Pwynt Craffu Technegol 5:

Nodir pwynt y Pwyllgor, ac mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau ynghylch y posibilrwydd o lunio Slip Cywiro i ymdrin â’r materion a godir. Fodd bynnag, hyd yn oed os nad yw Cofrestrydd yr OSau yn cytuno i wneud y newidiadau perthnasol drwy Slip Cywiro, nid yw Llywodraeth Cymru yn credu bod y materion a nodir yn cael effaith o sylwedd ar yr is-ddeddfwriaeth nac ar ba mor hygyrch y mae i’r darllenydd. O ganlyniad, nid yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd ar drywydd y pwynt hwn ymhellach drwy ddeddfwriaeth ddiwygio.

 

Pwyntiau Craffu Technegol 7 i 9:

Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru yn diolch i’r Pwyllgor am dynnu ein sylw at hyn. Mae Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad â Chofrestrydd yr OSau ynghylch y posibilrwydd o lunio Slip Cywiro i ymdrin â’r pwyntiau hyn. Bydd Llywodraeth Cymru, beth bynnag, yn gweithio gyda’r rheoleiddiwr, sef Cyfoeth Naturiol Cymru, i sicrhau bod pwyntiau’r Pwyllgor yn cael eu hadlewyrchu yn y fersiynau terfynol o’r ffurflenni hyn sydd ar gael i'r cyhoedd, pan gânt eu cyhoeddi ar-lein ac ar bapur.